Adran y Digwyddiadau Rhyfedd
Achos Rhyfeddol Aberlliw
Dewch yn ôl i Aberlliw yn 2022 ar gyfer antur sy’n fwy uchelgeisiol ac yn well nag erioed. Dyn ni’n mynd yn ôl i Aberlliw eleni yng nghwmni ACTORION BYW GO IAWN (ie wir, actorion o gig a gwaed!) ynghyd â fersiwn newydd o’r ap y gallwch chi ei ddefnyddio yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Yn galw pob ditectif, pob darganfyddwr a darganfyddwraig, a phob un sy’n mentro breuddwydio!
Croeso i Adran y Digwyddiadau Rhyfedd. Fel recriwt newydd, fe gei di dy fwrw’n syth i’r dwfn wrth glywed y newydd rhyfedd bod tref fach yng Nghymru’n dioddef diflaniad llwyr lliwiau! Flwyddyn yn ôl, cafodd y lliwiau I gyd eu dwyn gan... rywbeth, ac oddi ar hynny nid yw dim yr un peth. Alli di ein helpu ni i datrys Achos Rhyfeddol Aberlliw?
Os galli di helpu pobl y dref i ddod â’r lliwiau yn ôl i Aberlliw, rwyt ti’n debygol iawn o gael dyrchafiad a swydd barhaol yn yr Adran!
Byddwch chi’n derbyn diweddariadau byw a rhai ar fideo o Aberlliw, yn ogystal â thasgau i’w cyflawni trwy gyfrwng ap wrth ichi ymlwybro o gwmpas y lleoliad a ddewiswch chi.
Pob lwc iti, Asiant – a chofia: mae’r byd i gyd yn gwylio.
Anturiaeth awyr agored i’r teulu i gyd sy’n archwilio’r hud sydd y tu mewn I bob un ohonon ni.
Dyma sut mae’n gweithio:
Cam 1: Penderfynwch a ydych chi am ddilyn eich llwybr yn Gymraeg neu yn Saesneg (ategir y ddwy iaith ar yr ap gan fideos gyda BSL/capsiynau). Bwciwch eich tocynnau. Fe dderbyniwch chi wybodaeth am y lleoliad, ynghyd â manylion yr ap y byddwch chi’n ei ddefnyddio wrth ddilyn eich llwybr. Cewch chi islwytho’r ap i’ch dyfais eich hunan , neu gael benthyg un o’n cyfrifiaduron llechen ni. Argymhellwn eich bod yn defnyddio’r ap ar sgrîn fwy o faint, ond gallwch chi ei ddefnyddio ar ffôn hefyd.
Cam 2: Ar ddiwrnod y fenter – byddwch yn cyrraedd eich lleoliad ar yr amser a drefnwyd ichi ddechrau dilyn eich llwybr, ac yn dysgu manylion y digwyddiadau rhyfedd yn Aberlliw gan ein hasiantiaid sydd ar y safle. Byddwch chi’n cael eich tywys ar hyd y llwybr gan ddefnyddio’r ap, ac yn cyflawni tasgau ar hyd y ffordd gydag ychydig o help gan uwch-asiantiaid yr Adran.
Cam 3: Ewch adref i orffwys. Dych chi’n ei haeddu!
Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Defnyddiwch y dolenni cyswllt ar y llaw dde i drefnu eich tocynnau.
Cyd-gynhyrchiad gan Taking Flight/LAS Theatre mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Theatrau Sir Gar. Cyflwynwyd Achos Rhyfeddol Aberlliw am y tro cyntaf yn Llyn Llech Owain, Cross Hands a Pharc Gwledig Bryngarw.
Islwythwch y briffiad mynediad i asiantiaid yma ar gyfer Achos Rhyfeddol Aberlliw yma.
Beth am wisgo lan fel eich hoff dditectif ar ddiwrnod y llwybr? Pam lai?
Ar daith 2022
15th – 17th April Glan-y-gamlas Aberhonndu
21st – 24th April Parc Gweledig Cwm Dar
18th June Treborth Botanical Gardens, Bangor
25th June Unity Festival, Cardiff
2nd July Memo Arts Centre/Gladstone Gardens, Barry
23rd & 24th July The Big Splash Newport
20th August Pontardawe Riverside
21st August Ystradgynlais
22nd & 23rd August Pembrey Country Park
24th – 26th Bute Park Cardiff
Agents from the Department of Strange Events will also be investigating in Cardiff Bay (24th June), Bangor (29th June) and Llanelli Town Centre (2nd July) as part of the Unity Festival


