The Flying Squad
darn crwydrol ar gyfer gwyliau celf a digwyddiadau
Mae gan ein ditectifs truan drosedd i’w datrys, ond mae tystiolaeth y llygad-dystion i gyd yn eu harwain at un casgliad yn unig, sef mai un ohonyn nhw yw’r troseddwr. A fyddan nhw’n datrys y drosedd? A fyddan nhw’n dychwelyd i’r orsaf mewn pryd i ginio? Ac yn bwysicaf oll, a fu trosedd o gwbl yn y lle cyntaf?
Darn llawn hwyl, comedi golbio a chyfranogiad cynulleidfa yw hwn. Byddwch yn barod am hen ddigon o chwarae ditectif hurt yng nghwmni Carfan Wib y Flying Squad.
Cafodd Ditectifs Adran y Digwyddiadau Rhyfedd eu creu’n wreiddiol fel rhan o Achos Rhyfeddol Aberlliw, sef darn o theatr cymysgryw wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan LAStheatre, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a Theatrau Sir Gâr. Mae wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Fantastic for Families. Yn eu hymddangosiad diweddaraf yma maen nhw’n symud i ganol y llwyfan wrth iddynt orfod gwneud ymchwiliad iddynt eu hunain. Darn clownio crwydrol di-eiriau digrif dros ben yw The Flying Squad.
9 Gorffennaf/July: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug/Mold23 Gorffennaf/July: The Big Splash, Casnewydd/Newport
9 Awst/August: Eisteddfod Genedlaethol/National Eisteddfod
9/10 Medi/September: Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru Food Festival 2023, Sain Ffagan/St Fagans

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
