The cast of First Three Drops, costumed in brown and beige hues gather excitedly around a large box, from which escapes a magical light

First Three Drops 2023

Y Tri Diferyn Cyntaf

Cydgynhyrchiad Taking Flight/Theatrau RhCT

Mae problem gan Ceridwen y wrach. Problem fawr sy’n galw am ddatrysiad mawr. Dim ond un peth wnaiff y tro… mae angen hud cryf iawn arni. Wrth I Ceridwen adael Gwion, ffrind gorau ei mab, gyda’r dasg o droi’r TCP (Trwyth Cryf Pwysig) iddi am flwyddyn gyfan a diwrnod, all hi ddim dychmygu’r llanast fydd yn dilyn.

Mae First Three Drops yn stori ddoniol a hudolus, llawn bodau’n newid siâp, dewiniaeth di-ri, champau gwirion ac anturiaethau lu, gydag Iaith Arwyddion Prydain a disgrifiadau sain integredig. Mae’n seiliedig ar chwedl Taliesin, gan Elis Gruffydd.

Mae First Three Drops yn addas ar gyfer rhai bach rhwng 2 a 9 oed a'u teuluoedd. 

© Kirsten McTernan Photography

Writer/Director: Elise Davison

Design: Ruth Stringer

Composer: Sam Bees

Dylunio Goleuadau: Garrin Clarke

Adnoddau

Dysgwch y Gân Droi a Throi gyda Sam

Dysgwch un o’r caneuon o’n sioe newydd ni, First Three Drops,ac ymunwch yn y canu yn ystod y sioe!

Anifeiliaid Origami gyda Steph

Dilynwch y fideo yma yn Saesneg, gyda BSL a chapsiynau i ddysgu sut i wneud tri anifail origami i’ch helpu i ymuno yn yr hwyl yn ystod ein sioe newydd, First Three Drops, a gyflwynir ar y cyd â Theatrau RhCT.

Gwnewch Declyn Ysgwyd gyda Ioan

Mae ar Ioan angen eich help! Yn y sioe First Three Drops, mae ei gymeriad Ceridwen yn troi’n iâr i’w helpu i ddal ein harwr Gwion. Dysgwch sut gallwch chi helpu Ioan i ganu ei gân trwy wneud teclyn ysgwyd syml.

Dysgwch am ein mygydau gyda Paul

Mae rhywbeth gyda Paul i’w ddangos ichi. Mae ein dylunydd graffig Matthew Wright wedi creu mygydau hardd inni. Islwythwch eich mygydau yma yma, ac addurnwch nhw i’w gwisgo yn ystod y sioe.

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content